Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 19 Hydref 2017

Amser: 09.30 - 14.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
4412


------

Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Jayne Bryant AC

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Karin Orman, Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol

Dr Alison Stroud, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith

Beth Bowen, Coleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith

Melanie Minty, Fforwm Gofal Cymru

Steven Ford, Fforwm Gofal Cymru

David Francis, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

John Palmer, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Kim Williams, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf

Victoria Gimson, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Lisa Lane, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Claire Aston, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Dr Chineze Ivenso, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Sarah Isaac, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Sue Stephens, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

Staff y Pwyllgor:

Claire Morris (Ail Glerc)

Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc)

Amy Clifton (Ymchwilydd)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

<AI1>

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2 Cafwyd ymddiheuriad gan Dawn Bowden AC a Julie Morgan AC.

</AI1>

<AI2>

2       Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 9 - Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol a Choleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Goleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol a Choleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd.

</AI2>

<AI3>

3       Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 10 - Fforwm Gofal Cymru

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Fforwm Gofal Cymru.

</AI3>

<AI4>

4       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI4>

<AI5>

5       Ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc - adfywio'r ymchwiliad

5.1 Cynhaliodd y Pwyllgor drafodaethau ychwanegol ar ei ymchwiliad i weithgarwch corfforol ymhlith plant a phobl ifanc a chytunodd i wahodd rhanddeiliaid i sesiynau casglu tystiolaeth yn ystod tymor y gwanwyn.

</AI5>

<AI6>

6       Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 11 - Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

6.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.

6.2 Cytunodd David Francis i roi dadansoddiad i'r Pwyllgor o nifer y cartrefi gofal yng Nghymru yr oedd AGGCC wedi'u cau oherwydd eu bod yn darparu gwasanaethau gwael.

</AI6>

<AI7>

7       Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 12 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

7.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

</AI7>

<AI8>

8       Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - sesiwn dystiolaeth 13 - Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda

8.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

8.2 Cytunodd Dr Chineze Ivenso i roi i'r Pwyllgor ganfyddiadau archwiliadau 2017, hyd yma, i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig gyda chleifion â dementia sy'n byw mewn cartrefi gofal ym mwrdeistref Casnewydd.

8.3 Cytunodd y ddau Fwrdd Iechyd i ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi pa ddata ar ragnodi meddyginiaethau gwrthseicotig y dylid eu casglu yn genedlaethol, yn eu barn hwy, er mwyn galluogi byrddau iechyd i feincnodi â'i gilydd ac â safonau NICE.

</AI8>

<AI9>

9       Papurau i’w nodi

</AI9>

<AI10>

9.1   Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - gwybodaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru

9.1a Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ychwanegol gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru mewn cysylltiad â'r ymchwiliad i'r defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal.

</AI10>

<AI11>

9.2   Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â'r ymchwiliad y mae'r Pwyllgor ar fin ei gynnal i faterion yn ymwneud ag atal hunanladdiad

9.2a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ynglŷn â'r ymchwiliad y mae'r Pwyllgor ar fin ei gynnal i faterion yn ymwneud ag atal hunanladdiad.

</AI11>

<AI12>

9.3   Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynglŷn â Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014

9.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ynghylch Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014.

</AI12>

<AI13>

10   Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

10.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

</AI13>

<AI14>

11   Defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal - trafod y dystiolaeth

11.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd yn ystod eitemau 2, 3, 6, 7 ac 8 o'r cyfarfod.

</AI14>

<TRAILER_SECTION>

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>